50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mai 27th, 2021

Adeiladu Dyfodol Iachach Ar Ôl Covid-19

Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi ymateb i ymarfer ymgysylltu cyhoeddus diweddaraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n annog holl drigolion Llanelli i wneud yr un peth.

Ystyriodd y cyngor strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd mewn cyfarfod diweddar o’i Bwyllgor Polisi ac Adnoddau. Ailasesodd y pwyllgor gynllun 20 mlynedd y bwrdd iechyd ar gyfer ‘canol a gorllewin Cymru iachach: Cenedlaethau’r dyfodol yn byw’n dda’. Deilliodd hyn o wahoddiad cyffredinol gan y bwrdd iechyd i ystyried y strategaeth o feddwl am yr effaith fawr a gafodd y pandemig coronafeirws ar wasanaethau iechyd a gofal ac ar gymdeithas yn gyffredinol.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand “mae’r cyngor yn galw ar holl drigolion Llanelli i ddweud eu dweud. Mae’n bwysig ein bod ni gyda’n gilydd yn anfon neges glir at y bwrdd iechyd i ddiogelu a chadw gwasanaethau gofal iechyd yn lleol. Gallwn gyflawni hyn trwy annog cymaint o bobl â phosibl i ymateb i’r ymarfer ymgysylltu cyhoeddus diweddaraf, sy’n rhedeg tan ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

“Fel cyngor rydym yn teimlo bod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl a dylai’r bwrdd iechyd sicrhau bod mwy o wasanaethau cynghori lleol ar gael. Ar ben hynny, dylai gwasanaethau gofal iechyd fod yn gwbl hygyrch i’r cyhoedd yn lleol 24/7 heb i bobl orfod teithio’n bell i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt a beth sy’n waeth, gorfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i’w cael nhw yno. Mae’r fframwaith trafnidiaeth gyhoeddus gyfredol yn brin o adnoddau, yn annigonol ac yn annibynadwy. Rhaid gwella hyn.

“Ar ben hynny, mae’r pandemig wedi cael effaith niweidiol ar restrau aros cleifion. Er bod gan y cyngor gydymdeimlad ynghylch canslo neu aildrefnu apwyntiadau a llawdriniaethau oherwydd Covid-19, mae angen i’r bwrdd iechyd wneud popeth o fewn ei allu i glirio’r ôl-groniad fel blaenoriaeth frys gan gynnwys cyflogi mwy o glinigwyr.

“O ran lleoli’r ysbyty gofal brys newydd, mae’r cyngor o’r farn gadarn y dylid lleoli’r ysbyty mor agos â phosibl at leoliad y boblogaeth fwyaf a’r prif ddiwydiannau a bod yr ysbyty yn cael ei wasanaethu â chysylltiadau cyfathrebu rhagorol sy’n hygyrch. i bawb.

“Mae’r penderfyniad i adeiladu ysbyty newydd yn ein hardal yn gyfle unwaith mewn oes ac mae angen i’r bwrdd iechyd sicrhau ei fod yn cael hyn yn iawn. Dyma pam rydyn ni’n galw ar holl drigolion Llanelli i lobïo’r bwrdd iechyd dros yr ymarfer ymgynghori diweddaraf hwn”.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ymweld â: https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/; ebostio [email protected]; neu ffonio 01554 899 056.

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch a Chlerc y Cyngor, Mark Galbraith ar

01554 774103; ebost: [email protected]