Mae Panel Adolygu Annibynnol wedi ei sefydlu i ystyried rôl Cynghorau Cymuned a Thref yn y dyfodol.
Bydd yr adolygiad:
- yn ymchwilio i rôl bosib llywodraeth leol ar lefel islaw cynghorau Awdurdod Lleol, gan edrych ar arferion da
- yn diffinio’r model(au)/strwythur(au) mwyaf priodol ar gyfer cyflawni’r rôl hon
- yn ystyried sut y dylid rhoi’r modelau a’r strwythurau hyn ar waith ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw sefyllfaoedd lle na fyddent yn angenrheidiol nac yn briodol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru trwy glicio yma.