50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Tachwedd 27th, 2018

Ardal Chwarae Heol Yspitty

DATGANIAD I’R WASG- I’W RYDDHAU AR UNWAITH

Yng nghyfarfod Hamdden a Lles y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid trosglwyddo ased oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin i Gyngor Gwledig Llanelli, sef, ardal chwarae’r plant ar Heol Yspitty Bynea.  Yn y cyfarfod rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i adroddiadau archwilio ar yr ardal chwarae a’i gyfarpar. Hysbyswyd yr aelodau o arian oedd ar gael i sicrhau cynnal a chadw’r ardal chwarae yn y dyfodol. Rhoddir y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i ddechrau’r broses o drosglwyddo rhwng swyddogion y Cynghorau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand, “ Roedden ni’n teimlo ei fod yn beth iawn i’w wneud er lles y gymuned leol. Mae poblogaeth Bynea yn parhau i dyfu ac felly mae cynnal a chadw cyfleusterau megis yr ardal chwarae i blant i’r rhan hon o’r ward yn hanfodol. Unwaith y bydd wedi’i drosglwyddo i Gyngor Gwledig Llanelli, bydd yr arian sydd ar gael yn ein galluogi i wella’r ardaloedd sy wedi mynd a’u pen iddynt a chynnal a chadw’r ardal ymhellach i safon uchel,”

(Yn y llun: Ardal chwarae’r plant yn Heol Yspitty, Bynea)

(DIWEDD)

Am mwy wybodaeth, cyswllt:
Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli, Darren Rees ar 01554 774103