50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mai 1st, 2020

Banc Bwyd Llwynhendy/Pemberton

Mae Banc Bwyd Llwynhendy/Pemberton wedi wynebu her y coronafeirws ac yn ymateb i’r galw cynyddol yn yr ardal.

Ers cychwyn y cyfyngiadau symud, mae’r banc bwyd wedi helpu cannoedd o bobol yn yr ardal. Mae’r banc bwyd yn parhau i gefnogi’r gymuned leol trwy gael parseli bwyd angenrheidiol i’r rheiny sydd mewn angen.

Cefnogwyd Cynghorydd Cyngor Gwledig Llanelli, Jason Hart, gan nifer o wirfoddolwyr ac maen nhw wedi bod yn ddiflino yn eu hymdrechion i gasglu a dosbarthu bwyd ledled ardal Llanelli.

Agorwyd y banc bwyd yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Sharen L. Davies ym mis Gorffennaf 2019.

Mae ardal yr etholaeth yn cynnwys carfan fawr o bobol sydd â’u hamgylchiadau gweithio wedi newid dros nos ac sy’n byw o ddydd i ddydd i warchod anghenion sylfaenol bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Sharen Davies yr hoffai ddiolch i’r nifer o wirfoddolwyr a’r sefydliadau a’r unigolion canlynol am eu cefnogeth (nid oes pawb wedi’u rhestru gan fod rhai am aros yn anhysbys): –

Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Gwledig Llanelli, Castell Howell, Ein Llwynhendy, Morrisons, McDonalds, Costa, Jenkins Bakery, CETMA, Incredible Edibles, Hilltop, Joiners, Burns, Co-op, Cambrian Pet Food, Criced Dafen, Llanelli Airport Flyers, Cyngh Andrew Rogers, Cyngh Sue Lewis, Cyngh Louvaine Roberts, Sandra Cooke a Catrin Morris Besley, Nicky Walters, Tanya Kennedy – a llawer mwy sy wedi rhoi cyfraniadau ariannol a bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Davies: ‘Rydyn ni’n hynod ddiolchgar ac mor, mor ddyledus i’r sefydliadau a’r gwirfoddolwyr hyn- maen nhw’n anhygoel.

“Gan fy mod i wedi gorfod hunan-ynysu oherwydd cyflyrau iechyd, rydw i wedi bod yn ceisio am grantiau, sicrhau cyllid oddi wrth nifer o sefydliadau, sydd i gyd wedi bod yn ffantastig ac hebddyn nhw fydden ni ddim wedi gallu helpu’n cymunedau i’r graddau rydyn ni wedi gwneud.

“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i Llwynhendy Crafty Seniors a fy mam yng nghyfraith, sy wedi bod yn brysur yn gwnio a gwau i’r NHS.”

(DIWEDD)

 

Llun yn atodol:

O’r chwith i’r dde Tom Jones sydd ar raglen hyfforddiant i ieuenctid gyda Hyfforddiant CGLl, Lynne Lowe a’r Cynghorydd Jason Hart.

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Cynghorydd Sharen L. Davies ar 07856747856

Dyddiad: 1 Mai, 2020