Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi cytuno i ailenwi Canolfan Adnoddau Cymunedol Felinfoel yn Ganolfan Adnoddau Phil Bennett OBE Felinfoel, er cof am y diweddar Phil Bennett a fu farw ym mis Mehefin eleni. Mewn cynnig a gyflwynwyd gan Gynghorydd ward Felin-foel, Eve Evans, cefnogodd aelodau Pwyllgor Hamdden a Lles y Cyngor y cynnig yn unfrydol yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi. Mae’r adeilad, a agorwyd yn 2011, wedi’i leoli ar dir Maes Hamdden Felinfoel ac mae’n darparu ystafelloedd newid ar gyfer timau criced, pêl-droed a rygbi Felin-foel. Mae hefyd yn cynnwys swyddfeydd sy’n gartref i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae yna hefyd neuadd gymunedol a ddefnyddir yn dda ar lawr cyntaf yr adeilad.
Yn yr un cyfarfod, rhoddwyd cymeradwyaeth mewn egwyddor i fainc goffa yn enw Phil Bennett OBE o fewn Maes Hamdden Felin-foel. Mae trafodaethau bellach ar y gweill i benderfynu ar y lleoliad mwyaf addas a’r dewis o ddeunyddiau ar gyfer y fainc.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Giles Morgan: “Mae’n bwysig ein bod yn anrhydeddu cof Phil Bennett a’i holl lwyddiannau yma yn ei bentref genedigol, Felin-foel. Mae ailenwi’r Ganolfan Adnoddau Cymunedol yn ffordd addas o wneud hynny gan ei bod wedi’i lleoli mewn man oedd yn annwyl iddo wrth gynrychioli Felin-foel mewn rygbi a chriced ac yna’n ddiweddarach yn bloeddio cefnogaeth i’r timau ar ddiwrnodau gemau. Mae mainc goffa yn enw Phil hefyd yn rhywbeth yr ydym am ei gynnwys o fewn y maes hamdden a byddwn yn gweithio gyda’r gymuned i helpu i ddarparu hyn.”