
Derbyniodd Canolfan Gymunedol Sandy a Strade siec am £231.60 oddi wrth yr Is-Gadeirydd y Cynghorydd Tegwen Devichand. Roedd y Ganolfan Gymunedol yn llwyddiannus yn eu cais am grant Cronfa Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli oedd yn eu galluogi hwy i brynu hysbysfwrdd i’r Ganolfan Gymunedol. Defnyddir y ganolfan gan drigolion lleol, busnesau a sefydliadau. Bydd yr hysbysfwrdd newydd yn helpu i hyrwyddo’r cyfleusterau sydd ar gael yn y Ganolfan.
Yn y llun: Is gadeirydd y Cynghorydd Tegwen Devichand, aelod y ward lleol y Cynghorydd Penny Edwards; Swyddog Datblygu Cymunedol Darren Rees, Trysorydd y Ganolfan Ray Jones a’r Ysgrifennydd Ben Evans.