DATGANIAD I’R WASG
Nôl ym mis Ionawr fe gomisiynodd Cyngor Gwledig Llanelli astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y caeau yn Heol Gwili yn Llwynhendy. Pwrpas yr astudiaeth yw edrych ar hwb cymunedol newydd a gwelliant i ofod gwyrdd gyda golwg ar drosglwyddiad ased posibl o’r gofod ar gyfer budd cymunedol pellach oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r cefndir i pam y mae hyn yn cael ei gyflawni yn dilyn gwaith y Cynghorydd Sharen Davies, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, sy hefyd yn Gynghorydd Sir ward Llwynhendy, ar gefn blynyddoedd o drafod gyda thrigolion am y diffyg cyfleusterau er budd y gymuned. Penodwyd Adfywiad (Regeneration) Chris Jones i ymgymryd â’r astudiaeth dichonoldeb oedd yn awyddus i gynnig cyfle i drigolion lleol a grwpiau cymunedol i ffurfio cynlluniau a lluniadau ar gyfer y safle a hefyd i ystyried sut y bydden nhw’n defnyddio’r gofod a’r hwb. Ariannwyd yr astudiaeth dichonoldeb gan Gronfa Gymunedol y Loteri trwy raglen Ein Llwynhendy a Buddsoddi’n Lleol.
Yn wreiddiol roedd rhai diwrnodau agored wedi’u cynllunio yn Llyfrgell Llwynhendy a Chaeau Heol Gwili i drafod anghenion y gymuned, sut bynnag oherwydd cychwyn y coronafeirws, fe gyflawnwyd pob rhyngweithio ar lein neu o bell. Gan adeiladu ar ymgynghoriadau blaenorol fe gynhaliodd Cyngor Gwledig Llanelli, Fforwm Llwynhendy a Pemberton ac Ein Llwynhendy Ni fis o ymgynghori yn ystod mis Ebrill. Canlyniad hyn oedd 170 o unigolion yn darparu adborth sy wedi ei fwydo i mewn i ail gynllunio Llyfrgell Llwynhendy sy’n cynnwys estyniad i ddarparu gofod amlbwrpas sy’n darparu cyfleusterau megis llyfrgell, caffi a gofod cyfarfod a neuadd. Fe gymerwyd i ystyriaeth hefyd gynllun newydd i’r caeau sy’n cynnwys nodweddion newydd megis ardal i gael picnic, cyfarpar chwarae i blant, llwybrau newydd a nodweddion amgylcheddol.
Mae disgwyl i’r astudiaeth dichonoldeb gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf ond yn y cyfamser mae angen barn y gymuned ynglŷn â’r cynlluniau. Gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan Cyngor Gwledig Llanelli lle gall defnyddwyr bori drwy’r cynlluniau a darllen am ganlyniadau’r ymgynghoriad cyntaf. Mae yna gyfle am adborth trwy ddilyn y cysylltiadau i’r arolwg ac fe fydd arolwg gwahanol i bobol ifanc. Y dyddiad cau ar gyfer yr arolygon yw Dydd Gwener 3ydd Gorffennaf. Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth yma ar lein yn https://www.llanelli-rural.gov.uk/cy/hwb-llwynhendy/ neu os ydych yn dymuno cael copi papur, cysylltwch â Darren Rees ar 01554 774103 neu trwy e-bost yn [email protected]
Dywedodd y Cynghorydd Sharen Davies, “Rydyn ni wedi gwneud y gorau allwn ni mewn amgylchiadau anodd i gysylltu â thrigolion ynglŷn â hyn. Bydd pob cartref yn derbyn taflen gyda mwy o wybodaeth am y cam olaf yn yr ymgynghoriad. Ymatebwch i ddweud eich dweud cyn y dyddiad terfynol Gorffennaf 3ydd. Fe hoffwn ddiolch i dimoedd tai a hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin am eu cydweithrediad cyn belled yn caniatáu i Gyngor Gwledig Llanelli i archwilio’r posibilrwydd o gymryd drosodd yr ardal hon yn Llwynhendy er budd ei thrigolion. Hefyd am waith grwpiau cymunedol lleol rhagweithiol megis Fforwm Llwynhendy a Pemberton, Ein Llwynhendy Ni a Chanolfan Deulu Tŷ Enfys yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith pwysig hwn a’u rôl yn y grŵp llywio”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jason Hart, ward Pemberton Cyngor Gwledig Llanelli, “Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd yn gyffrous ac yn dangos ystyriaeth i ddefnyddwyr o bob oedran ar gyfer pob math o ddefnydd. Rydyn ni wedi ymgysylltu â’r ymgynghorydd ac wedi cyflwyno amrywiaeth o deithiau defnyddwyr i’r adeilad yn seiliedig ar y trafodaethau gefais gyda’r trigolion yn fy rôl fel cynghorydd cymunedol. Rydw i’n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad terfynol a gweithredu arno.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Tegwen Devichand, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, “Mae’r gwaith a gyflawnwyd gan yr ymgynghorwyr hyd yn hyn a’r cynlluniau ar gyfer adeilad hardd a gofodau gwyrdd a gyflwynwyd wedi gwneud argraff arnaf . Rydw i’n gobeithio y bydd y gymuned yn ymgysylltu â’r ymgynghoriad terfynol hwn a chysylltwch â’r Cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau. Fe wnawn ein gorau i droi’r prosiect hwn yn realiti a chael y buddsoddiad gorau posibl i drigolion Llwynhendy elwa ohono”
(DIWEDD)
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymunedol Darren Rees ar 01554 774103; ebost: [email protected]