50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Awst 19th, 2020

Cyllid ar Gael ar gyfer Arddangosfeydd Dyddiau Gwyl a Blodau yn Ardal Llanelli Wledig

Yn ei gyfarfod o’r Cyngor ym mis Gorffennaf, cytunodd aelodau o Gyngor Gwledig Llanelli i newid y blaenoriaethau cyllido i’w grant Cronfa Datblygu Cymuned flynyddol. Cafodd hyn ei gynnwys yn agenda’r cyfarfod yn sgil Covid-19, a beth oedd y ffordd orau i ddefnyddio’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn draddodiadol gwneir cais am y cyllid blynyddol hwn gan sefydliadau gwirfoddol ac mae’n ariannu achosion cymunedol megis digwyddiadau Nadolig, gwelliannau yn y gymuned, grwpiau hobi etc. Mae’r gwyriad o’r polisi yn cefnogi canllawiau Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar gynulliadau cymdeithasol.

Caiff y cyllid ei ddyrannu eleni mewn dwy ran:

(1) bydd y Cyngor yn darparu coed Nadolig yn yr ardaloedd o fewn ei ardal weinyddol pan wneir cais am hynny;
(2) bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau oddi wrth grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol am fasgedi crog neu arddangosfeydd blodau yn ei ardal weinyddol.

Gellir cael cyngor pellach am y broses ar gyfer (1) a (2) trwy gysylltu â Chyngor Gwledig Llanelli ar 01554 774103 neu trwy e-bost yn [email protected] <mailto:[email protected]>. Y dyddiad cau ar gyfer eu derbyn yw Dydd Gwener 25 Medi 2020.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand, “Dim ond mesur dros dro ydyw hwn ar gyfer eleni. Roedd rhaid i’r aelodau benderfynu ar beth oedd y ffordd orau i ddefnyddio’r Gronfa Datblygu Cymuned ar ôl cymryd i ystyriaeth yr effaith y bydd Covid-19 yn ei gael ar gynulliadau cymunedol. Ar ôl trafodaeth dda cytunwyd mai’r peth gorau i’w wneud oedd bywiogi ein hardaloedd lle’r oedd hynny’n bosibl gydag arddangosfeydd dyddiau gŵyl a blodau. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau dros y 12 mis nesaf “.

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymuned Darren Rees ar 01554 774103; ebost: [email protected]