50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Cynllun Hyfforddi’r Cyngor

Mae gan y cyngor ddyletswydd statudol o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i wneud cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi ei gynghorwyr a’i staff.

Pwrpas y cynllun hyfforddi yw sicrhau bod cynghorwyr a staff ar y cyd yn meddu ar y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen er mwyn i’r cyngor weithredu’n effeithiol. Nid oes angen i bob cynghorydd ac aelod o staff fod wedi derbyn yr un hyfforddiant a datblygu’r un arbenigedd

Rhaid rhoi cynllun hyfforddi newydd ar waith ar ôl pob etholiad cyffredinol o gynghorwyr cymuned i adlewyrchu’r anghenion hyfforddi sy’n deillio o newidiadau i aelodaeth y cyngor ac i ddarparu ar gyfer ethol cynghorwyr newydd. Dyma gynllun hyfforddi cyntaf y cyngor ond o hyn ymlaen bydd yn adolygu’r cynllun o bryd i’w gilydd i’w gadw’n gyfredol ac yn berthnasol.

O ran staff y cyngor, mae arfarniadau perfformiad blynyddol yn nodi cyfleoedd hyfforddi unigol yn barhaus, tra bod asesiad hyfforddiant cychwynnol wedi’i wneud o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen wrth bennu blaenoriaethau hyfforddi ar gyfer cynghorwyr, ac a yw’r cyngor yn teimlo bod digon o sylw a dyfnder ar draws y cyngor er mwyn iddo weithredu’n effeithiol wrth symud ymlaen o fis Mai 2022. Mae gan y cyngor dîm ymroddedig o staff profiadol a chymwys. O ganlyniad, mae’r cyngor yn hyderus y bydd gwybodaeth ac arbenigedd staff yn helpu i arwain a chefnogi aelodau newydd yn ystod 6 i 12 mis cyntaf eu cyfnod yn y swydd. Fodd bynnag, cynhelir asesiad pellach o anghenion hyfforddi cynghorwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol, pan fydd cynghorwyr newydd wedi cael mwy o amser i setlo i mewn ac wedi dod yn gwbl gyfarwydd â’u rolau a’u cyfrifoldebau. Er gwaethaf hyn, mae meysydd craidd i fynd i’r afael â hwy er mwyn sicrhau bod gan y cyngor sgiliau a dealltwriaeth ddigonol. Y rhain yw:

  • Cwrs sefydlu sylfaenol i gynghorwyr;
  • Y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru;
  • Rheolaeth ariannol a llywodraethu.

Yn ogystal â’r meysydd hyn, bydd y cyngor am ystyried a oes heriau a chyfleoedd newydd y gallai ddymuno eu harchwilio, er enghraifft, y rhai a gynigir gan y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol. Os felly, efallai y bydd yn penderfynu bod sgiliau newydd i gynghorwyr a staff eu hennill yn y dyfodol o gyhoeddi’r cynllun hyfforddi cychwynnol hwn.

Mae’r cyngor wedi cymeradwyo cyhoeddi’r cynllun hyfforddi hwn ar ôl nodi ei ofynion cychwynnol i symud y cyngor yn ei flaen yn dilyn yr etholiadau cyffredinol llywodraeth leol ar 5 Mai 2022. Mae’r cynllun yn giplun o’r gofynion hyfforddi ar hyn o bryd a bydd yn cael ei ailystyried a’i ddiweddaru o bryd i’w gilydd dros y pum mlynedd nesaf ac yn arwain at y set nesaf o etholiadau cyffredinol llywodraeth leol a gynlluniwyd ar gyfer Mai 2027

O ran cynlluniau cychwynnol y cyngor, nodir y rhain yn y tabl canlynol: