Mae’r cyngor yn ymwybodol o sylwadau personol a wnaed gan un o’i gyn gynghorwyr mewn erthygl bapur newydd yn ddiweddar ynghylch yr amgylchiadau sy’n ymwneud â gwaharddiad y cyn-gynghorydd rhag dal swydd fel cynghorydd gyda Chyngor Gwledig Llanelli.
Mae’r cyngor yn gwrthod y sylwadau a wnaed gan y cyn gynghorydd ac yn bendant yn gwadu unrhyw ran yn y broses diarddel.
Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chymerodd y cyngor unrhyw benderfyniad i ddiarddel y cyn gynghorydd oherwydd bod y broses diarddel yn cael ei llywodraethu a’i phenderfynu gan y gyfraith, sef Adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ni fydd y cyngor yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.
(DIWEDD)
2 Gorffennaf, 2021