50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mawrth 4th, 2025

Datganiad y Cyngor

Cyllideb y Cyngor

Paratowyd y datganiad canlynol gan y cyngor ar ran Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Sue Lewis mewn ymateb i erthygl yn y wasg a godwyd gan Blaid Cymru ac aelodau dethol Annibynnol sy’n gwasanaethu ar Gyngor Gwledig Llanelli am drefniadau cyllidebu’r cyngor ar gyfer 2025/2026:

“Mae’r cyngor wedi wynebu penderfyniadau gwario ariannol anodd wrth edrych i osod ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ers peth amser mae’r cyngor wedi lliniaru effaith ei benderfyniadau gwariant ar bresept y cyngor trwy ddefnyddio cyfuniad o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, cronfeydd wrth gefn cyffredinol a grantiau i wrthbwyso costau gwariant i’r presept.

“Er gwaethaf bod yn gynnil gyda gosod y presept dros y pum mlynedd flaenorol, lle cododd y cyngor y presept o 3.7% ar gyfer 2024/25, 2% ar gyfer 2023/24 a dim cynnydd cyn hyn yn dilyn rhewi tair blynedd, ni allwn bellach gynnal y dull hwn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hyn i’w briodoli’n bennaf i’r ffactorau canlynol:

“Mae costau staffio wedi codi i ddarparu ar gyfer adnoddau staffio ychwanegol i gynnal gwasanaethau sy’n gysylltiedig â rhaglen trosglwyddo asedau’r cyngor gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers 2017 ond o ystyried maint cynyddol portffolio eiddo’r cyngor ni allwn oedi mwyach i recriwtio tair swydd newydd o staff i helpu i reoli gwasanaethau’r cyngor yn gynaliadwy. Ar ben hyn mae’n rhaid i’r cyngor dalu mwy o gyfraniadau yswiriant gwladol o fis Ebrill 2025 ar gyfer ei staff oherwydd nid yw wedi’i eithrio rhag talu’r costau ychwanegol hyn, yn wahanol i Gyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn bennaf yn elwa o ryw fath o eithriad. Ar ben hynny, mae’n rhaid i’r cyngor hefyd ddarparu ar gyfer codiad cyflog blynyddol y staff i gadw i fyny â chwyddiant.

“Cafwyd costau ychwanegol hefyd i gwblhau’r prosiect cyfalaf yn llawn yng Nghaeau Gwili ac ad-drefnu Cangen Llyfrgell Llwynhendy. Mae angen £107,018 ychwanegol i ddarparu ar gyfer hyn oherwydd bod y cyngor wedi gorfod cwrdd â £103,000 ychwanegol i ymdrin â gwaith draenio tir ar y caeau i gael gwared ar ddŵr daear er mwyn gwneud y caeau yn rhai y gellir eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau adloniant a hamdden. Ni ragwelwyd y gost hon wrth osod cyllidebau y llynedd ond mae’n hanfodol i’r prosiect lwyddo. Rhaid cwrdd â’r gost hon. Ymhellach, mae angen i’r cyngor newid cerbyd o’i fflyd cynnal a chadw tiroedd gan fod un o’i gerbydau presennol y tu hwnt i atgyweiriad economaidd.

“Mae’r holl ffactorau hyn wedi arwain y cyngor i gynyddu ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod oherwydd bod ei gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a’i gronfa wrth gefn gyffredinol wedi gostwng o ganlyniad i gefnogi cyllidebau blaenorol. Er bod y prif gynnydd yn cynrychioli cynnydd o 32.3%; mewn termau real mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £44.39 fesul cartref eiddo Band D y flwyddyn; cyfwerth ag 85 ceiniog yr wythnos.

“Bydd y cynnydd yn galluogi’r cyngor i gynnal a chefnogi gwasanaethau’r cyngor; parhau â’i raglen gyfalaf bresennol sy’n darparu mannau chwarae newydd ym Mhonthenri, Cilsaig yn Dafen, Pen-y-graig yn y Bynea, Caeau Gwili yn Llwynhendy yn ogystal â’r hwb cymunedol newydd yn hen gangen llyfrgell Llwynhendy a thoiledau cyhoeddus diwrnod gêm i’w defnyddio ym Maes Hamdden Felin-foel. Mae’r cyngor hefyd yn bwriadu adeiladu man chwarae newydd yn ardal y Strade yn Ward Hengoed ac mae wedi ymrwymo £100,000 tuag at y fenter hon. Bydd y cyngor yn cyflawni’r holl welliannau hyn erbyn diwedd ei dymor etholiadol ym mis Mai 2027, yn y broses bydd yn creu tair swydd newydd sbon tra ar yr un pryd bydd y gyllideb yn cynnal ac yn diogelu gwasanaethau a chronfeydd wrth gefn; i gyd am 85 ceiniog ychwanegol yr wythnos. Mae hyn yn cynrychioli gwerth rhagorol am arian ac rwy’n falch o ddull y cyngor o wella llesiant cyffredinol a diogelu cyfleusterau cymunedol pwysig mor economaidd â phosibl.

“A throi at y pwynt ar lwfansau aelodau, mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi pennu lwfansau cymedrol ar gyfer y sector cynghorau tref a chymuned. Mae’r lwfans presenoldeb sydd ar gael i bob aelod yn daliad dewisol y gall unrhyw aelod ei ildio os yw’n dymuno. Does dim rhaid i aelodau ei hawlio a dim ond i roi cyd-destun i’r hyn sy’n cael ei haeru, mae pob cynghorydd sir yn derbyn cyflog sylfaenol o £19,771 y flwyddyn o gymharu â chyllideb gyfan y cyngor o ddim ond £15,000 wedi’i ddosrannu rhwng ei 21 cynghorydd. Mae’r taliadau hyn yn cael eu gosod gan y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol oherwydd ei fod yn cydnabod nad yw rôl cynghorydd tref a chymuned bellach yn cael ei hystyried yn rôl wirfoddol ac yn bwysicach na hynny ni ddylai unrhyw aelod fod ar ei golled wrth gyflawni’r rôl.”

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Arweinydd y Cyngor, Cyngh Susan Lewis ar 01554 774103; Ebost  [email protected]