50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Tachwedd 28th, 2017

Diogelu Parciau Llanelli Rhag Eu Cau

Mae nifer o barciau a chaeau chwarae Llanelli wedi cael eu hachub rhag y bygythiad o gau, yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Tref Llanelli i gydweithio i’w cynnal a’u cadw. O ganlyniad, mae’r ddau gyngor wedi trosglwyddo asedau nifer o barciau ac ardaloedd chwarae oddi wrth Gyngor Sir Gâr, fel rhan o’i raglen trosglwyddo asedau. Eisoes, mae gan y cynghorau hanes rhagorol o gydweithio, â hwythau wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth ym 1975 wrth ffurfio cydbwyllgor i oruchwylio’r gwaith o gaffael Mynwent Cylch Llanelli a’i rheoli.

Yn ddiweddar, mae’r ddau gyngor wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gydnabod y trefniant hanesyddol hwn. Bydd yn rheoleiddio gweithgarwch y cydbwyllgor yn well ac yn ei alluogi i ffurfio cydgytundeb newydd i gynnal a chadw parciau a chaeau chwarae sydd wedi cael eu trosglwyddo at y ddau gyngor gan y Cyngor Sir, a’u rheoli

O fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae cydweithio’n dod yn fwy a mwy hanfodol, ac mae Llywodraeth Cymru’n ei annog, er mwyn cefnogi ei hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Mae cydweithio er budd cyffredin hefyd yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Dan y trefniadau partneriaeth newydd, mae Cyngor Gwledig Llanelli nawr yn darparu cyngor a chymorth proffesiynol i Gyngor Tref Llanelli ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â chynnal a chadw tir, ac mae hefyd yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw tir wedi’i deilwra’n arbennig, ar gyfer Cyngor y Dref.

Meddai’r Cynghorydd Jan Williams, Arweinydd Cyngor Tref Llanelli, ynghylch nod y bartneriaeth a’i buddion, “un o brif nodau’r bartneriaeth yw defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Mae’r trefniant hwn gyda’r Cyngor Gwledig wedi arbed llawer o arian trwy rannu adnoddau, ond mae hefyd wedi helpu cadw swyddi a’u diogelu ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, yn bwysicach fyth, mae’r bartneriaeth wedi diogelu dyfodol ein parciau a’n caeau chwarae yn y dref”.

Mae’r parodrwydd hwn i gydweithio wedi sicrhau arbedion i gyllidebau’r ddau gyngor, trwy rannu costau gwasanaethau. Mae’r Cyngor Gwledig wedi creu ffrwd incwm gan Gyngor i Dref i helpu talu am y gost o gynnal a chadw’r parciau a’r ardaloedd chwarae sydd wedi cael eu trosglwyddo gan y Cyngor Sir; ac mae Cyngor y Dref wedi arbed amser ac arian gan nad yw’n gorfod dyblygu gwasanaethau y mae’r Cyngor Gwledig eisoes yn eu darparu.

Meddai’r Cynghorydd Tegwen Devichand, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, “Trwy gytuno i gydweithio, mae’r ddau gyngor wedi achub nifer o barciau a chyfleusterau hamdden rhag y bygythiad o gau. Braf yw gweld bod y bartneriaeth hon yn gwneud gwahaniaeth amlwg i’r gymuned leol, gyda chyfleusterau hamdden yn cael eu cynnal i safon uchel iawn yn y dref a’r ardaloedd gwledig. Credwn fod y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau wedi gwella trwy’r bartneriaeth, ac mae’r trefniant yn darparu gwell gwerth am arian i’r cyhoedd, a dyma wir ystyr gwaith partneriaeth”.

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chlerc y Cyngor Gwledig, Mark Galbraith ar 01554 774103; e-bost: [email protected] neu Gary Jones, Clerc Cyngor y Dref ar 774352; e-bost: [email protected]

21 Tachwedd, 2017

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae yna lun sy’n dod gyda’r datganiad hwn, ac mae’n dangos swyddogion Cyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Tref Llanelli yn llofnodi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Yn y llun mae:
Mr D. Gary Jones, Clerc y Dref (chwith yn y cefn);
Mr Mark Galbraith, Clerc y Cyngor Gwledig (dde yn y cefn);
Y Cynghorydd Jan Williams, Arweinydd Cyngor y Dref (canol ar y chwith);
Y Cynghorydd Tegwen Devichand, Arweinydd y Cyngor Gwledig (canol ar y dde);
Y Cynghorydd Jeff Edmunds, Maer y Dref (eistedd ar y chwith); a
Y Cynghorydd H. John Evans, Cadeirydd y Cyngor Gwledig (eistedd ar y dde).

2. Mae’r ddau gyngor wedi trosglwyddo asedau’r parciau a’r caeau chwarae canlynol oddi wrth Gyngor Sir Gâr:
Asedau a drosglwyddwyd yn ardal y Cyngor Gwledig:
Ardal chwarae Bryngolau, Dafen; Man Gêmau Amlddefnydd Heol Gwili, Llwynhendy; ardal chwarae Heol Nant, Dyffryn y Swistir; Parc Dafen; Parc Pontiets; Cae Hamdden Pwll a Chaeau Chwarae’r Trallwm.
Asedau a drosglwyddwyd yn ardal Cyngor y Dref:
Parc y Goron, Seaside; Parc Havelock, Y Morfa; Caeau Chwarae Penyfan; Caeau Chwarae Penygaer a Pharc y Dref, Llanelli.

3. Trosglwyddwyd yr asedau dan drefniadau les hirdymor, ond mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi trwyddedau ar gyfer llawer o’r cyfleusterau hamdden fel mesur dros dro er mwyn cyflawni’r gwaith trosglwyddo tra’i fod yn delio gyda materion cofrestru hawliau eiddo gyda Chofrestrfa Tir EM. Mae cyfnod y les ar gyfer pob cyfleuster yn 99 mlynedd am rent nominal.

4. I wneud iawn am y gost o drosglwyddo’r asedau, mae Cyngor Sir Gâr wedi sicrhau bod grantiau ar gael i’r ddau gyngor. Mae’r grantiau cyfwerth â dwy flynedd o gostau cynnal a chadw blynyddol ar gyfer pob ased, ac un grant a delir unwaith yn unig ar gyfer yr holl asedau a drosglwyddwyd. Mae gwerth ariannol y grantiau sydd ar gael i’r Cyngor Gwledig tua £83,000 ac mae’r gwerth i Gyngor y Dref tua £294,000.