50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Medi 25th, 2020

Effaith Cyfyngliadau Lleol

Ymhellach i’r cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru fod ardal Llanelli yn cael ei gosod o dan gyfyngiadau lleol newydd o 6pm ar Ddydd Sadwrn 26 Medi, 2020 gall y Cyngor gadarnhau y canlynol yn nhermau ei weithgaredd busnes wrth i ni wynebu y cloi lleol.

Bydd y swyddfa dderbyn yn Adeiladau Vauxhall yn parhau ar agor i aelodau’r cyhoedd ond rydyn ni’n annog pobol i gysylltu â ni dros y ffôn neu trwy e-bost er mwyn lleihau’r cyswllt. Bydd Hyfforddiant LRC yn parhau i gynnig sesiynau wyneb yn wyneb gyda’u dysgwyr fydd yn parhau i deithio i’r canolfannau hyfforddi.

Effeithir ar rai cyfleusterau cymunedol. Bydd parciau ac ardaloedd chwarae sy o dan ofal y Cyngor yn parhau ar agor ond caiff agor neuaddau cymunedol ei atal dros dro hyd nes y codir y cyfyngiadau symud lleol. Bydd dyletswyddau cynnal a chadw tiroedd y Cyngor yn parhau gyda’i staff yn cadw at y mesurau rheoli sydd eisoes yn eu lle. Bydd y swyddfa ym Mynwent Ardal Llanelli ar gau i’r cyhoedd ond gellir dal i gysylltu â nhw dros y ffôn neu trwy e-bost.

Bydd y Cyngor yn diweddaru ei wefan i unrhyw newidiadau perthnasol trwy gydol y cyfnod hwn o gyfyngu ar symudiadau trigolion Llanelli. Bydd yn parhau i gyflwyno’r negeseuon a osodir gan Gyngor Sir Caerfyrddin gaiff eu hysbysu gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Tegwen Devichand, “Rydyn ni’n cefnogi’n llwyr y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau iechyd lleol yn eu mesurau i gyflwyno cyfyngiadau ar symudiadau trigolion ardal Llanelli. Mae’r dystiolaeth mewn ardaloedd eraill megis Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn profi fod y mesurau hyn yn effeithiol wrth daclo lledaeniad y feirws ofnadwy hwn.”

Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Sharen Davies, “Mae’r rhain yn amserau rhyfedd a gofidus yr ydym yn byw ynddynt ond mae’r mesurau newydd hyn yn angenrheidiol i ddiogelu ein ffrindiau a’n teuluoedd. Mae gan wefan Llywodraeth Cymru ‘gwestiynau gaiff eu holi yn aml’ fydd yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r pryderon mwyaf cyffredin sydd gennym fel trigolion. Fe fyddwn yn parhau i ddiweddaru gwefan Cyngor Gwledig Llanelli a sianeli cyfryngau cymdeithasol a gellir cysylltu â’r swyddfa os oes gennych unrhyw bryderon”.

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymunedol Darren Rees ar 01554 774103; ebost: [email protected]