1. Cyflwyniad
Lleolir Canolfan Llwynhendy yn Heol Elfed yn Llwynhendy. Ased a drosglwyddwyd i Gyngor Gwledig Llanelli oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin oedd hen adeilad cangen y llyfrgell . Mae’r adeilad yn cael ei adnewyddu a’i ymestyn ar hyn o bryd. Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y lleoedd gwag yn yr adeilad yn cynnwys:
Bydd Canolfan Llwynhendy yn sefydlu cysylltiadau gyda sawl darparwr gwasanaeth ac yn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau megis :
(delwedd o gynllun llawr ar gyfer Canolfan Llwynhendy)
Mae Canolfan Llwynhendy yn rhan o brosiect ehangach sydd hefyd yn cynnwys adfywio’r man gwyrdd o amgylch yr adeilad sy’n darparu man chwarae newydd i blant, llwybrau, gwell draeniad yn y caeau a gwelliannau amgylcheddol.
(Argraff pensaer o Gae Gwili a Chanolfan Llwynhendy ar ôl cwblhau’r gwaith)
2. Cynnydd (diweddarwydd ddiwethaf 27/3/25)
Ardal chwarae a’r caeau o gwmpas
Mae offer y man chwarae, y lloriau a’r ffensys wedi’u gosod yn ddiweddar. Bydd y man chwarae caeedig ar gyfer plant iau yn cael ei agor i’r cyhoedd unwaith y bydd gwaith adeiladu’r Ganolfan wedi’i wneud, fel ei fod yn ddiogel i’r cyhoedd ei ddefnyddio ac i sicrhau nad oes unrhyw ymyrraeth â’r gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo ar hen adeilad y llyfrgell.
Bydd yr ardaloedd chwarae yn cael eu hagor yn raddol:
- Ardal offer ffitrwydd: Nawr ar agor
- Man chwarae plant iau: Y man nesaf i’w agor. Dyddiad i’w gadarnhau
- Man chwarae plant hŷn: Ar ôl gwaith draenio. Dyddiad i’w gadarnhau
- Cableway / llinell Zip Ar ôl gwaith draenio. Dyddiad i’w gadarnhau
Mae gwaith pellach wedi’i gynllunio ar gyfer ochr orllewinol y cae. Mae gwaith draenio wedi’i amserlennu yn yr ardal hon y mae’n rhaid ei wneud cyn i’r offer chwarae iau a leolir yno agor i’r cyhoedd. Mae gwaith tir wedi ei ohirio oherwydd cyflwr gwlyb y cae ac roedd angen cyfnod o amser i ganiatáu i ochr orllewinol y caeau sychu fel y gellir mynd â pheiriannau trwm i’r cae. Bydd y gwaith yn dechrau eto yn fuan a’r nod yw ei gwblhau mewn pryd fel bod yr holl offer chwarae ar gael ar gyfer yr haf
Enwi y cae/parc.
Rydym yn chwilio am awgrymiadau ar gyfer enwi’r maes. Cyflwynwch eich awgrymiadau i’r cyngor cyn 7 Ebrill 2025 drwy e-bost [email protected] neu ffoniwch 01554 774103
Gwaith adeiladu Canolfan Llwynhendy
Mae estyniad y fynedfa flaen, a fydd yn cynnwys cyntedd a thoiledau, yn mynd rhagddo’n dda iawn a bydd yn cael ei gwblhau yn gyntaf. Ym mis Ebrill, bydd sylw’n newid i tu fewn y gegin, ardal cynllun agored ac ystafelloedd cyfarfod. Y cynllun yw agor yr adeilad i’r cyhoedd ym mis Mehefin/Gorffennaf 2025 neu o gwmpa hynny.
3. Y rhai sy’n ariannu’r prosiect
Diolch i’n cyllidwyr prosiect a’n partneriaid!
Mae’r ardal chwarae, y llwybrau a’r prosiect gwella amgylcheddol wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan:
- Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a gefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin
- Ein Llwynhendy – prosiect Buddsoddi’n Lleol
- Cyngor Gwledig Llanelli
- Woodland Trust Coed Rhad ac Am Ddim i Ysgolion a Chymunedau
Mae prosiect Canolfan Llwynhendy wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan:
- Cyngor Gwledig Llanelli
- Rhaglen Cydweithio Asedau Llywodraeth Cymru
- Llwynhendy Ni – prosiect Buddsoddi’n Lleol
- Cyngor Sir Caerfyrddin
4. Ymyngohoriad cymunedol
Rydyn ni’n dymuno sicrhau bod yr adeilad yn gwasanaethu’r gymuned yn iawn, a dyna pam dros y misoedd nesaf byddwn yn casglu barn trigolion, grwpiau cymunedol, busnesau lleol a darparwyr gwasanaethau. Yn y cyfnod cyn agor yr adeilad byddwn yn mynd allan i gasglu barn a bydd yr holl ryngweithio arfaethedig ar gael ar y dudalen hon ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Lle bo modd, caiff ei hyrwyddo’n lleol hefyd..
Arolwg Ar-lein
Mae’r arolwg ar gael ar y ddolen isod. Mae’n rhoi cyfle i drigolion ddweud beth hoffent weld ar gael yn y Ganolfan? Beth hoffai eu teulu, ffrindiau a chymdogion ei gael yno? Beth fyddai’n gwneud iddynt fynychu Canolfan Llwynhendy?
I roi eich barn i ni, rhowch sylwadau yn yr arolwg yma
Digwyddiadau
Bydd digwyddiadau galw heibio a chyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu hamserlennu a’u rhestru yma
Cysylltwch a ni
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y swyddfa ar 01554 774103 a siaradwch â’n Swyddog Datblygu Cymunedol. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
5. Cyfle i gael trwydded Caffi
Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn falch o gynnig cyfle gwych i weithredwr profiadol a brwdfrydig i ddarparu gwasanaethau arlwyo yng Nghanolfan Llwynhendy sydd newydd ei datblygu ar Heol Elfed, Llwynhendy, SA14 9HH. Mae hwn yn lleoliad gwych i weini amrywiaeth o fwydydd, byrbrydau a diodydd poeth ac oer i’r gymuned leol ac ymwelwyr. Bydd ardal y ‘Caffi’ yn cynnwys cegin, man gweini a mannau eistedd mewnol ac allanol.
Gall y rhai sydd â diddordeb lawrlwytho rhagor o wybodaeth yma
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Chyngor Gwledig Llanelli.Ffon: 01554 774103, [email protected]
6. Erthyglau newyddion o’r gorffennol ar y prosiect
8 Tachwedd 2024 – https://www.llanelli-rural.gov.uk/cy/golau-gwyrdd-ar-gyfer-hwb-cymunedol-diolch-i-hwb-grant-sylweddol/
10 Tachwedd 2023 – https://www.llanelli-rural.gov.uk/cy/hwb-yn-wyrdd-i-fwrw-iddi/
7 Mawrth 2022 – https://www.llanelli-rural.gov.uk/cy/prosiect-hwb-llwynhendy-yn-codi-sbid-ond-mae-angen-mwy-o-farn-o-hyd/
16 Mehefin 2020 – https://www.llanelli-rural.gov.uk/cy/chwilio-am-farn-ynglyn-a-chynlluniau-adeiladdatganiad-ir-wasg-cymunedol-a-pharc-i-lwynhendy/
19 Rhagfyr 2019 – https://www.llanelli-rural.gov.uk/cy/caeau-heol-gwili-y-cam-nesaf/
7. Cwestiynau Ceffredin
Pryd fydd yr adeilad ar agor?
Disgwylir I’r adeilad agor ym Mehefein/Gorffennaf 2025.
Beth sy’n mynd I ddigwydd I wasanaeth y llyfgell?
Y cynllun yw gosod dau gabinet llyfrau, sy’n gweithredu’n debyg iawn i beiriant gwerthu, i greu llyfrgell hunanwasanaeth sy’n caniatáu i’r cwsmer fenthyg a dychwelyd teitlau yn rhwydd. Bydd ychwanegu locer hunanwasanaeth yn y cyntedd newydd yn galluogi cwsmeriaid i gadw yn ol eitemau ar-lein o gatalog helaeth llyfrgell Sir Gaerfyrddin. Pan fydd eitem yn barod i’w chasglu mae’n syml yn cael ei chodi o’r locer yng nghyntedd y Ganolfan ar adeg sy’n gyfleus. Gellir dychwelyd eitemau a gesglir o loceri cadw hefyd trwy’r locer pan fyddant yn ddyledus. Yn ogystal â banc o gyfrifiaduron cyhoeddus sefydlog a gwasanaethau Argraffu, bydd doc o 6 llechen Hublet yn darparu mynediad cyflym a diogel i adnoddau digidol tra ar y safle gan gefnogi gweithgaredd cynhwysiant digidol. Mae tabledi Hublet yn ategu’r cypyrddau llyfrau gan eu bod yn ffordd boblogaidd o gael mynediad i gatalogau llyfrgell i archebu teitlau nad ydynt ar gael ar unwaith. Mae lleoli’r Hybledau yn y gofod cymunedol ehangach yn annog cwsmeriaid i gael mynediad at wasanaethau digidol eraill y llyfrgell, gan gynnwys llyfrau sain, e-lyfrau, papurau newydd a chylchgronau ac yn ehangu eu defnydd i grwpiau cymunedol, dosbarthiadau a sefydliadau sy’n defnyddio’r lleoliad sydd hefyd yn cael ei ategu gan ddarpariaeth wi-fi cyhoeddus am ddim a chaffi.
Sut alla i logi lle yno a faint fydd y gost?
Bydd man amlbwrpas a hyd at dair ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi. Bydd gan bob gofod gyfradd benodol. Bydd cyfraddau gostyngol ar gael i grwpiau lleol ac elusennau sy’n gwasanaethu Llwynhendy
A fydd maes parcio ychwanegol?
Mae’r maes parcio yn cael ei ymestyn fel rhan o’r gwaith adeiladu presennol.
A oes pwll wedi’i gynllunio ar gyfer y man gwyrdd?
Na, nid oes pwll wedi’i gynllunio. Efallai bod argraff y pensaer yn awgrymu hyn ond yr hyn a gynlluniwyd gennym ar gornel isaf y cae yw ardal a fydd yn dal ac yn rhyddhau dŵr arwyneb y cae yn araf. Bydd y gwaith draenio sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y safle yn cyfeirio dŵr arwyneb o law trwm i gymysgedd o bantiau, basnau a storfa dan ddaear sy’n rhyddhau’r dŵr yn araf i’r ddaear a’r carthffosydd presennol.
Beth fydd oriau agor Canolfan Llwynhendy?
Bydd yr adeilad ar agor a bydd staff yn eu lle o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa. Bydd agor gyda’r nos ac ar benwythnosau i’w llogi’n breifat. Gall gweithredwr y drwydded caffi benderfynu agor ar benwythnosau ac os felly bydd yr adeilad ar agor yn ystod yr oriau hyn