Cynorthwyir mudiadau gwirfoddol bob blwyddyn trwy gyfrwng cyfraniadau ariannol. Mae clybiau chwaraeon ac ieuenctid, eglwysi a chapeli, Cyngor ar Bopeth ac ati yn cael grantiau rheolaidd oddi wrth yr Awdurdod.
Cyllideb Cymorth Ariannol o £3,000 – sy’n cael ei rhannu yn unol â pholisi’r Cyngor fel a ganlyn:
- £1,000 – dau gyfraniad o £500
- Dau gyfraniad o £250
- Pim Gyfraniad o £100
- £1,000 – gyda chyfraniad isafswm o £50.00
Os ydych yn cynrychioli grŵp neu fudiad o fewn ardal weinyddol y Cyngor ac os hoffech wneud cais am gymorth ariannol, ysgrifennwch at y Cyngor yn esbonio pam fod angen ein cymorth arnoch.
Cyllideb Dyraniadau Ward o £10,000 – sy’n cael ei rhannu i’r Wardiau unigol yn ôl eu poblogaeth:-
- Bynie – £1,990
- Dafen – £1,422
- Felinfoel – £769
- Glyn – £969
- Hengoed – £1,918
- Pemberton – £1,773
- Dyffryn y Swistir – £1,159
Caiff yr arian ei rannu gan gynghorwyr lleol y Ward i grwpiau a mudiadau lleol er mwyn cefnogi achosion haeddiannol.