Mae gan y Cyngor 21 aelod etholedig, yn cynrychioli saith ward ac mae’n cyfarfod ar yr ail nos Fawrth (6.00 pm) bob mis ac eithrio mis Awst.
Mae pwyllgorau sefydlog hefyd yn cyfarfod (4.45 pm) bob mis ac eithrio mis Awst, fel a ganlyn:
Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol: Dydd Mercher olaf y mis
Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt: pob trydydd dydd Llun
Pwyllgor Polisi ac Adnoddau: trydedd dydd Mercher y mis
Pwyllgor Lles a Hamdden: thrydydd dydd Mawrth y mis
Cadeirydd: Y Cynghorydd Martin V. Davies
Arweinydd y Cyngor: Y Cynghorydd Susan N. Lewis
Clerc y Cyngor: Mark Galbraith ACIS
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i annog datblygu cymunedol yn ogystal â chynnig llais lleol i’r cymunedau y mae’n eu cynrychioli.
Mae presept y Cyngor ar gyfer 2024/2025 yn £1,174,180 sy’n cyfateb i £137.30 am bob eiddo band D. Ers sefydlu’r Cyngor, mae wedi adeiladu a chynnal a chadw naw neuadd gymunedol. Mae’n gofalu am saith pharc ble y chwaraeir rygbi, pel droed a chriced yn rheolaidd, ac mae hefyd yn gofalu am tri ar ddeg llecyn chwarae i blant. Mae’n cynnig grantiau i gyrff gwirfoddol ac elusennol ac yn darparu cyfleoedd profiad gwaith a swyddi trwy ei Adran Hyfforddiant.
Derbyniodd y Cyngor wobr Ffit i Weithio oherwydd ei agwedd gadarnhaol tuag at bobl anabl. Mae cefnogaeth hefyd wedi cael ei ddatgan ar gyfer Her Iechyd Cymru i wella lefelau iechyd.
Mae’r Cyngor yn cael ei gydnabod yn swyddogol yn gorff Buddsoddwyr mewn Pobl.