50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Hyfforddiant LRC

Hyfforddiant LRC

Sefydlwyd LRC Training, a enwyd i gychwyn yn ETMA, gan Gyngor Gwledig Llanelli yn 1988. Ei bwrpas oedd darparu profiad gwaith a hyfforddiant i oedolion oedd heb waith. Daeth darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith a gymeradwywyd yn 1990. LRC Training yn parhau i ddarparu rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddiant llwyddiannus. Mae’n parhau i fod yn adran hunan-gyllidol o fewn Cyngor Gwledig Llanelli.

Ewch i’n gwefan yn http://www.lrctraining.org.uk/cymraeg/

Dros y 12 mis diwethaf, mae’r adran hyfforddi wedi cyflawni ar y canlynol:

  • Mae’r flwyddyn gyntaf fel partner cyflwyno rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog (Prince’s Trust) wedi’i chwblhau. Ymunodd 37 o ddysgwyr â thimau 1-3 ac fe gwblhaodd 31 (84% y rhaglen yn llwyddiannus. Mae tîm 4 yn cychwyn ym mis Gorffennaf.
  • Mae blwyddyn gyntaf cyflwyno prentisiaeth i recriwtiaid newydd yn y DVLA yn Abertawe yn dod i’w therfyn. Mae LRC Training wedi bod yn gweithio gyda Pathways Training o dan ambarél Academi Sgiliau Cymru i gyflwyno fframweithiau Lefel 2 Gwasanaeth Cwsmeriaid i 50 prentis newydd. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus gyda chyfraddau cwblhau rhagamcan o 82%. Bydd recriwtio cyffelyb ar gyfer 2017/18 yn cychwyn ym mis Awst.
  • LRC Training ydyw’r prif ddarparwr prentisiaethau ar gyfer Logisteg yng Nghymru. Cyrhaeddodd 88% o brentisiaid eu fframwaith llawn. Eleni mae LRC Training yn gallu cynnig caffaeliad Trwydded LGV – Dosbarth 1 neu 2, fel; rhan o’r rhaglen prentisiaeth Lefel 2.