50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Mawrth 14th, 2017

Felinfoel yn barod am ardal chwarae newydd

DATGANIAD I’R WASG

FELINFOEL YN BAROD AM ARDAL CHWARAE NEWYDD

Ddoe (Dydd Llun Mawrth 13eg) cafodd plant o Felinfoel y cyfle i ddweud eu dweud ynglŷn â’r hyn roedden nhw am ei weld yn eu hardal chwarae newydd yn y pentref.

Fel rhan o’i rhaglen trosglwyddo asedau mae Cyngor Gwledig Llanelli yn y broses o gael tir oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin, a fydd yn gartref i ardal chwarae newydd i blant Felinfoel. Fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i’r cymunedau y mae’n ei gynrychioli, fe gynhaliodd Cyngor Gwledig Llanelli ddigwyddiadau ymgynghori yn Ysgol y Felin, lle rhoddwyd cyfle i’r plant i weld tri opsiwn dylunio ar gyfer yr ardal chwarae, a phleidleisio dros eu ffefryn. Dywedodd Darren Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli: “ Dyma’r ail ymgynghoriad a’r un olaf i ni ei gynnal yn yr ysgol ac mae’r adborth a gawsom ar y ddau achlysur wedi bod yn bositif. Bydd y Cyngor yn ystyried yr adborth ynglŷn â pha gynllun i’w ddewis”.

Aeth Steve Donoghue, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli ymlaen i ddweud bod hwn “yn  gyfle unigryw i’r plant i gael dweud eu dweud ac mewn ffordd cael perchnogaeth o’r hyn a ddaw yn ganolbwynt cyfleusterau hamdden y pentref. Rydyn ni’n falch o’r holl waith mae’r Cyngor yn ei gyflawni yn ei gymunedau ac yn edrych ymlaen at gwblhau’r cynllun hwn yr haf hwn.”

Ychwanegodd Robert Evans, cynghorydd cymuned Llanelli Wledig: “ Diolch yn fawr i’r ysgol sy wedi bod mor barod yn caniatáu i’r ymgynghoriadau hyn ddigwydd. Mae ardal chwarae newydd wedi bod yn hir cyn dod ac mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn brin yn yr ardal ers yn rhy hir”. Adleisiwyd teimladau Robert Evans gan John Evans cynghorydd Felinfoel i Gyngor Gwledig Llanelli a ddywedodd  “Fe fu’n llwyddiannus, daeth llawer yno a diolch i staff yr ysgol am gydweithio”.

ffoelconsultationA ffoelconsultationB

(ENDS)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli, Mr Darren Rees ar  01554 774103.

14 Mawrth 2017