
Roedd Fforwm Llwynhendy a Phemberton yn llwyddiannus yn eu cais i sicrhau Grant Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli o £2,898.20 sydd wedi arinnau tair mainc goffa wedi’u lleoli yn agos i Lyfrgell Llwynhendy i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r meinciau cofeb rhyfel yn cofio’r rheiny fu farw neu a glwyfwyd yn y rhyfel gan nad oes gan yr ardal unrhyw gofadail arall. Bydd yr ardal bellach yn fan i gynnal gwasanaethau blynyddol, ac yn cael ei defnyddio i amcanion addysgiadol ac yn lle i fyfyrio am y rhai a roddodd cymaint i ni.
Yn y llun : Y Cadeirydd y Cynghorydd Sharen Davies gyda Chydweddog y Dirprwy-Gadeirydd y Cynghorydd Jason Hart ynghyd â PCSO lleol.