50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Tachwedd 8th, 2024

Golau Gwyrdd ar Gyfer Hwb Cymunedol Diolch i Hwb Grant Sylweddol

DATGANIAD I’R WASG

Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi sicrhau grant sylweddol i gefnogi ei gynlluniau i drawsnewid Llyfrgell Cangen Llwynhendy yn hwb cymunedol amlbwrpas.

Mae’r cyngor wedi derbyn £250,000 gan Rhaglen Grant Gydweithredu Cymru ar Asedau Cam 3 Llywodraeth Cymru. Mae’r dyfarniad grant yn golygu y gall y gwaith adnewyddu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y llyfrgell nawr ddechrau ar unwaith. Mae gwaith amgylcheddol a thirlunio i Gaeau Gwili cyfagos sy’n rhan o’r un prosiect eisoes wedi dechrau diolch i grant arall a ddyfarnwyd i’r Cyngor Gwledig o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ynghyd â chymorth arian cyfatebol gan Ein Llwynhendy.

Mae derbyn grant Llywodraeth Cymru wedi arwain y cyngor i weithredu’n gyflym wrth ddewis y cynnig tendr cymeradwy ar gyfer y gwaith adeiladu, gyda’r contract yn cael ei ddyfarnu i Martin Taffestsauffer Building and Civil Engineering Contractors Ltd.

Yn amodol ar gwblhau trefniadau cyn-cytundebol sy’n cael eu cydgysylltu gan bensaer ymgynghorol y Cyngor W. Griffiths Architects, mae’r cwmni adeiladu’n gobeithio dechrau gwaith ar y safle yng nghanol mis Tachwedd 2024. Mae Emroch Landscapes wedi’i benodi gan y cyngor i wneud y gwaith amgylcheddol a thirlunio sy’n cynnwys gosod ardal chwarae newydd, llwybrau ac amffitheatr. Yn amodol ar dywydd ffafriol bydd gwaith allanol ar Gaeau Gwili wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gwaith i adeilad y llyfrgell yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2025.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd S. N. Lewis “Mae dyfarnu grant Llywodraeth Cymru yn newyddion gwych i bobl Llwynhendy. Gall y gwaith adnewyddu i drawsnewid y llyfrgell yn ased cymunedol bywiog nawr ddechrau o’r diwedd. Bydd y grant yn ariannu’r gwaith o adeiladu cyntedd blaen newydd sbon, storfa ychwanegol a thoiledau cyhoeddus, gan roi golwg a theimlad modern i’r adeilad tra’n ei wneud yn fwy deniadol ac yn fwy hyfryd i  edrych arno”.

“Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â’r £200,000 o arian cyfatebol y mae’r cyngor wedi’i glustnodi ar gyfer y cynllun, ynghyd ag arian cyfatebol ychwanegol gan ein partneriaid prosiect, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ein Llwynhendy. Ni fyddai’r prosiect wedi digwydd oni bai am eu hamynedd a’u cefnogaeth amhrisiadwy ac felly mae llawer iawn o werthfawrogiad a diolch yn mynd iddyn nhw”.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trosglwyddo adeilad y llyfrgell i’r Cyngor Gwledig ar brydles 99 mlynedd am rent rhad ac mae hefyd yn darparu £30,000 i’w roi tuag at waith cyfalaf

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – y Cynghorydd Hazel Evans: “Mae cymunedau wedi’u grymuso pan fydd ganddynt berchnogaeth a rheolaeth dros asedau lleol ac, felly, rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Gwledig Llanelli i drosglwyddo ased adeilad Llyfrgell Cangen Llwynhendy. iddyn nhw gan sicrhau dyfodol yr adeilad.”

Mae Ein Llwynhendy wedi addo £350,000 i gefnogi’r cynllun. Mae rhywfaint o’r cyllid hwn eisoes wedi’i wario. Talodd Ein Llwynhendy gost yr astudiaeth ddichonoldeb wreiddiol a gynhyrchwyd yn 2020 gwerth £15,000 ac mae hefyd wedi addo £100,000 i’w roi tuag at y gwaith amgylcheddol a thirlunio yng Nghaeau Gwili.

Dywedodd Cadeirydd Ein Llwynhendy, Natasha Horne, Roedd y grŵp eisiau creu gwaddol parhaol gyda’i raglen ariannu deng mlynedd ac rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Gwledig a Chyngor Sir Caerfyrddin i helpu i drosi dyheadau’r gymuned yn realiti. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i’n pentref. Nid yw’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu ardal chwarae newydd ac adnewyddu’r llyfrgell yn unig, mae’n ymwneud â dod â phobl ynghyd drwy greu cyfleusterau y gall pawb eu mwynhau a’u defnyddio. Bydd y prosiect yn darparu etifeddiaeth barhaus i genedlaethau’r dyfodol drwy wneud ein cymuned yn wyrddach, yn fwy deniadol a chynaliadwy gyda’r hwb cymunedol yn ganolbwynt i’n cynlluniau”.

Gyda gwaith adeiladu ar fin cychwyn, gall y Cyngor Gwledig droi ei sylw yn awr at wneud cais am grantiau pellach i’w rhoi tuag at gyflogi Rheolwr Adeiladu a Marchnata a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo a rheoli’r hwb cymunedol o ddydd i ddydd pan fydd wedi agor.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor Gwledig, y Cynghorydd Martin Davies “Mae hwn bellach yn gyfnod prysur i’r cyngor sicrhau bod holl elfennau’r prosiect yn cael eu cwblhau mewn pryd ond fel cyngor rydyn ni’n benderfynol o lwyddo i ddarparu rhywbeth arbennig i drigolion Llwynhendy. Rwy’n sicr y bydd y prosiect yn cael effaith sylweddol ar wella llesiant cyffredinol. Mae’n arbennig o braf bod y prosiect yn creu cyfle cyflogaeth llawn amser i helpu i reoli’r hwb wrth symud ymlaen ac o bosibl rhai o adeiladau cymunedol eraill y cyngor hefyd. Yn fy marn i, mae hyn yn rhan hanfodol o ddiogelu cynaliadwyedd cyffredinol y prosiect a’i lwyddiant cyffredinol”.

Mae’r prosiect wedi bod yn destun ymgynghoriad cymunedol helaeth ers ei sefydlu ychydig dros bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy, Cadeirydd Pwyllgor Hamdden a Lles y Cyngor Gwledig “Mae hi wedi cymryd peth amser i ddechrau ar y prosiect hwn ond rwy’n siŵr y bydd yr aros wedi bod yn werth chweil pan fydd wedi’i gwblhau yng ngwanwyn 2025. cam mawr ymlaen i Lwynhendy a fydd yn cryfhau’r gymuned drwy ddod â phobl at ei gilydd. Mae’r cyngor wedi gweithio’n galed i wneud i hyn ddigwydd gyda’i bartneriaid prosiect a rhanddeiliaid cymunedol. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wella ansawdd bywyd ein holl drigolion”.

(DIWEDD)

Am wyobaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymunedol, Darren Rees ar 01554 774103; ebost  [email protected]

Nodiadau i’r Golygydd:

1.

Yn 2019 sefydlodd Cyngor Gwledig Llanelli grŵp llywio i edrych ar drosglwyddo asedau cymunedol adeilad y llyfrgell. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys staff y Cyngor Gwledig a swyddogion y Cyngor Sir o wasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, gwasanaethau tai, eiddo corfforaethol a datblygu economaidd. Hefyd wrth y bwrdd roedd grŵp Buddsoddi’n Lleol ‘Ein Llwynhendy’ a’r cynghorwyr lleol, y Cynghorydd S. L. Davies, y Cynghorydd J. P. Hart, y Cynghorydd S. K. Nurse ac yn fwy diweddar y Cynghorydd A. G. Stephens.. Cytunodd y grŵp llywio fod angen astudiaeth ddichonoldeb i werthuso datblygiad canolbwynt cymunedol yn llyfrgell Llwynhendy a’r caeau cyfagos.

2.

Gweledigaeth ac uchelgais Cyngor Gwledig Llanelli a’i bartneriaid prosiect, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ein Llwynhendy yw creu hwb cymunedol amlbwrpas yn Llyfrgell Llwynhendy, a ystyrir yn ased cymunedol pwysig, wedi’i leoli yn Heol Elfed, Llwynhendy, Llanelli. Bydd Cyngor Gwledig Llanelli yn cymryd yr adeilad ar gytundeb les 99 mlynedd yn gyfnewid am rent rhad ar y sail bod yr adeilad o fudd i’r gymuned.

3.

Defnydd presennol yr adeilad yw darparu gwasanaeth llyfrgell cangen yn unig gan y Cyngor Sir. Dyma’r unig gyfleuster cyhoeddus yn Llwynhendy sydd wedi’i leoli yng nghanol y pentref. Fe’i agorwyd yn 1983. Nid yw ei olwg yn ddeniadol nac yn groesawgar.  Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gadael ei ôl ar yr adeilad; mae’r ffenestri ar y lfl gwalod I gyd ag estyll arnynt. Mae diffyg arwyddion ac mae gan y fynedfa set o giatiau haearn gwaharddedig sy’n rhoi argraff ofnadwy i’r cyhoedd. Nid yw llawer o drigolion, yn enwedig trigolion newydd, yn siŵr beth yw diben yr adeilad.

4.

Ystyrir y llyfrgell gangen yn wasanaeth pwysig i’r gymuned. Fe’i defnyddir gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Mae’n bwysig i’w ddefnyddwyr rheolaidd sy’n mwynhau’r gwasanaeth llyfrgell. Mae’r prosiect hwb yn bwriadu cysylltu’r adeilad â’r hyn sydd o’i amgylch. Mae lleoliad yr adeilad yn ganolog ac yn bellter diogel o’r ffordd fawr brysur. Yn gefn i adeilad y llyfrgell mae cae agored sydd â llwybr torri trwyddo sy’n cysylltu llwybrau cerdded diogel yn y gymuned.

5.

Bydd yr hwb yn cynnig man cyfarfod i grwpiau cymunedol, ystafell TG, cyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau tai cymdeithasol. Bydd y lleoliad yn gallu cynnal digwyddiadau cymunedol, partïon plant a chynulliadau tebyg. Bydd yn darparu caffi cymunedol yn gweini lluniaeth ysgafn. Cyfrifoldeb Cyngor Gwledig Llanelli fydd rheoli a rhedeg yr hwb, gyda’r prosiect hefyd yn creu cyfle am swydd llawn amser ar gyfer Rheolwr Adeiladau a Marchnata, a gyflogir gan y cyngor. Bydd y person hwn yn gweithio yn yr hwb ac yn gyfrifol am reoli gweithgareddau’r hwb o ddydd i ddydd yn ogystal ag o bosibl rhai o asedau cymunedol eraill y cyngor.

6.

Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys:

Cyntedd mynediad; cegin; toiledau cyhoeddus; ystafelloedd cyfarfod i’w llogi; gofod llyfrgell ac ystafell TG newydd; ardal amlbwrpas agored i’w llogi; ardal caffi; teras awyr agored yn edrych dros yr ardal chwarae newydd i blant yng Nghaeau Gwili.

7.

Bydd gwasanaeth llyfrgell deithiol yn gweithredu yn yr ardal ar rai dyddiau o’r wythnos, tra bydd y llyfrgell gangen yn parhau ar gau yn ystod y gwaith adnewyddu. Bydd y llyfrgell deithiol yn ymweld â chymuned Llwynhendy yr wythnos yn dechrau 14 Tachwedd a bydd yn gweithredu dros amserlen dreigl o dair wythnos nes bod y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau. Wythnos 1 – Dydd Iau 10am-1pm, Wythnos 2 – Dydd Llun 2pm-5pm ac Wythnos 3 – Dydd Sadwrn 2pm-4pm.

8.

Bydd cyfle i dynnu lluniau yn cynnwys cynrychiolwyr partneriaid y prosiect a chontractwyr unwaith y bydd y prif gontractwr yn barod i gymryd meddiant o’r safle gwag. Bydd hyn yn digwydd am 1:00pm ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2024. Mae croeso i ffotograffwyr/gohebwyr fynychu.