GWOBR DIWYDIANT I FYNWENT LEOL
Mae Mynwent Ardal Llanelli wedi cipio gwobr yng Ngwobrau Mynwent Genedlaethol y Flwyddyn 2023.
Mae’r Bwrdd Ymwybyddiaeth Coffa (MAB) wedi bod yn hyrwyddo a threfnu Gwobrau Mynwent y Flwyddyn ers bron i 20 mlynedd. Dyfarnwyd Gwobr Arian i Fynwent Ardal Llanelli yng nghategori Mynwent Ganolig y Gystadleuaeth Genedlaethol a derbyniodd y wobr ym mis Medi.
Dywedodd Philip Potts o’r Bwrdd Ymwybyddiaeth Coffa;
“Mae’r gwobrau’n gyfle gwych i wobrwyo staff sy’n gweithio’n galed ac arddangos y rôl ganolog y gall mynwentydd ei chwarae yn y gymuned. Maent yn darparu mannau tawel i fyfyrio a harddwch, yn ogystal â’u pwysigrwydd ecolegol.
Perfformiodd y tîm ym Mynwent Llanelli yn eithriadol drwy gydol y cyfnod beirniadu dwys sy’n canolbwyntio ar Safonau Diwydiant, Materion Amgylcheddol ac Arfer Da.”
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli: “Mae’r gwaith caled, y gofal a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan staff Mynwent Ardal Llanelli yn ddiflino ac rydym ni fel cyngor wrth ein bodd bod y Fynwent wedi’i chydnabod yng Ngwobrau Mynwent y Flwyddyn y Bwrdd Ymwybyddiaeth Coffa ar gyfer 2023/ 24. Mae Cyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Tref Llanelli yn parhau i gydweithio i wella ein cymunedau”.
Dywedodd Maer Cyngor Tref Llanelli: “Rwyf wrth fy modd bod Mynwent Ardal Llanelli wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau mawr eu bri Mynwent y Flwyddyn gyda Gwobr Arian. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gyflawniad gwych ac mae’n dystiolaeth o waith ymroddedig Tîm y Cyngor Tref a’r Cyngor Gwledig ar y cyd sy’n darparu gwasanaeth eithriadol i Gymuned Llanelli tra’n llawn parch o natur y cyfleuster a ddarperir”.
LLUN – o’r chwith i’r dde Gareth Austin Rheolwr Cyfleusterau, Cyngor Gwledig Llanelli Cadeirydd y Cyng Susan Phillips, Cadeirydd Cyd Bwyllgor Claddu Ymgynghorol Llanelli Cyng Andrew Rogers, Cynghorydd Tref Llanelli ac Is-Gadeirydd Cyd Bwyllgor Claddu Ymgynghorol Llanelli y Cyng David Darkin a Maer Tref Llanelli Cyngor Cyng Nick Pearce.
(DIWEDD)
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Cyngor ar 01554 774103;
ebost: [email protected]
Dyddiad: 3 Hydref, 2023