Gwirfoddoli a Chredydau Amser
O ganlyniad i’r Cynllun Lle Cyfan, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu ei brosiect Credydau Amser ei hun gyda’n partneriaid Spice. Mae’r cysyniad o gredydau amser yno i annog mwy o gynhyrchu ar y cyd yn y gymuned. Mae yno i annog mwy o bobol i wirfoddoli a thyfu cymunedau. Mae buddion iechyd ar gyfer unigolion sy’n ymgysylltu yn eu cymunedau wedi’u dogfennu’n dda ac rydyn ni wrth ein bodd i fedru cynnig cyfleoedd o fewn Ardal Wledig Llanelli.
Mae yna nifer o rolau gwirfoddoli cymunedol ar gael trwy ein rhwydwaith o grwpiau cymunedol, neuaddau cymuned, cynllun credydau amser a Swyddog Datblygu Cymunedol.
Os yw’ch grŵp chi’n gweithio o fewn ffiniau Cyngor Gwledig Llanelli fe allwch chi hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli i’ch sefydliad yma. Cysylltwch â’r swyddfa i drefnu.