50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Ionawr 12th, 2022

Mabwysiad Cronfa Ddŵr y Cyngor yn Dod â Mwy o Newyddion Da i’r Rhai Sy’n Caru Byd Natur

Credyd llun: Andrew Thomas

DATGANIAD I’R WASG

Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi derbyn Grant Gwella Coetir ar gyfer Cronfa Ddŵr Lliedi Isaf yn Nyffryn y Swistir. Mae grant o £52,919.74 wedi’i roi i’r cyngor i wella profiad yr ymwelydd trwy gynllun newydd rheoli coetir a thrwy ddarparu arwyddion newydd, mannau eistedd/picnic, hygyrchedd, atgyweirio llwybrau troed a gwella llwybrau coetir presennol. Bydd blychau cynefinoedd yn cael eu gosod hefyd i helpu i fonitro a chynorthwyo bioamrywiaeth yn y coetir.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf dylai ymwelwyr sylwi ar osod arwyddion, meinciau a gwell llwybrau troed a llwybrau coetir. Bydd cyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan drwy glirio a gwella llwybrau troed presennol. Bydd dyddiau hefyd yn cael eu neilltuo ar gyfer gweithgorau gwirfoddol i osod blychau cynefinoedd nythu ledled y safle ar gyfer ystlumod, pathewod ac adar.

Ariennir y grant gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i menter Coedwig Genedlaethol i Gymru. Prif amcan y Grant Gwella Coetiroedd yw darparu cyllid i wella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU, sydd â’r potensial i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda, sy’n hygyrch i bobl ac sy’n rhoi cyfle i gymunedau lleol gymryd rhan.

Bydd y gwaith yn ategu’r newidiadau diweddar a wnaed i’r safle er mwyn rhoi gwell profiad i ymwelwyr. Mae hyn wedi bod yn bosibl ers i’r cyngor ymrwymo i gytundeb mabwysiadu cymunedol gyda’r tirfeddianwyr, Dŵr Cymru Welsh Water ar ddiwedd 2020. Ers hynny mae’r cyngor wedi gwella llwybrau, mynediad o’r ddau faes parcio, y bloc toiledau a gosod ramp mynediad i’r anabl a phontŵn ar y gronfa ddŵr i hwyluso chwaraeon padlo. Mae’r cyngor hefyd wedi helpu i sefydlu clybiau pysgota a phadlo gwirfoddol newydd yn y gronfa ddŵr tra hefyd yn ymgysylltu â darparwyr addysg awyr agored i alluogi mwy o fyfyrwyr oed ysgol a choleg i elwa o’r amgylchoedd yn y gronfa ddŵr.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand “rydym yn falch iawn o dderbyn y grant cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i’n helpu gyda’n cynlluniau cyffredinol i ddiogelu a gwella’r llecyn prydferth pwysig hwn yn Nyffryn y Swistir.”

“Bydd y grant yn cefnogi ymhellach y gwelliannau a nodwyd yn ein cynllun rheoli safle ar gyfer y gronfa ddŵr a’r cyffiniau ond yn bwysig, bydd rhan o’r cyllid hefyd yn talu am lunio cynllun rheoli coetir i’n helpu i gynnal a gwneud y gofod yn fwy addas i fywyd gwyllt fyw ynddo, a gwneud y mwyaf o fioamrywiaeth leol.”

“Bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein helpu i gadw safle’r gronfa ddŵr am flynyddoedd i ddod a gobeithiwn y bydd y gymuned leol yn edrych i’n cefnogi drwy wirfoddoli gyda pheth o’r gwaith sy’n rhan y grant. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu â’r cyngor ar 01554 774103 neu e-bostio [email protected]”.

(DIWEDD)

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymuned, Darren Rees ar 01554 774103; e-bost: [email protected]