Mae Chris Davies ar hyn o bryd yn mynychu Rhaglen Ymgysylltu Prentisiaeth gyda Chyngor Gwledig Llanelli ac yn ystod hyn mae wedi mynd ati o ddifri i gymryd mantais lawn o gefnogaeth oddi wrth staff i’w alluogi ef i ddatblygu sgiliau personol wrth ennill cymwysterau a phrofiad perthnasol.
Yn ystod ei 12 wythnos gyntaf yn Ymgysylltu, fe ymgymerodd Chris, ynghyd ag un deg tri o bobol ifanc eraill, â Rhaglen Tȋm Ymddiriedolaeth y Tywysog oedd yn llawn gweithgareddau. Yn ystod y 12 wythnos yma, fe daflodd Chris a’i gyd aelodau yn y tȋm eu hunain i ganol gweithgareddau llawn hwyl ac yn aml heriol wedi’u cynllunio i gefnogi dysgwyr i ddod i adnabod ei gilydd wrth ddatblygu sgiliau gweithio fel tȋm, cymhelliant, magu hyder, datrys problemau, cyflogadwyedd a chyflwyno.
Yn fuan daeth Chris yn aelod pwysig a brwdfrydig o’r tȋm ac erbyn diwedd y cwrs yn ogystal â magu hyder a ffurfio cyfeillgarwch newydd, fe enillodd ei Wobr Lefel 1 mewn Sgiliau Datblygiad Personol a Chyflogadwyedd.
Yn ystod yr wythnos olaf o’r 12, fe greodd Chris a’i gyd aelodau yn y tȋm gyflwyniad i deulu, ffrindiau a phartïon oedd â diddordeb i ddathlu eu cyraeddiadau cyn parhau â’i rhaglen ymgysylltu, wedi’i arfogi â hyder newydd ac angerdd i weithio o fewn y diwydiant arlwyo a lletygarwch.
Roedd Chris yn awyddus i fynd i’r gweithle cyn gynted ag oedd yn bosibl ac yn fuan fe’i cyflwynwyd â chyfle i ddechrau lleoliad gydag ‘Unrhyw Un yn Aros’ yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli yn ystod mis Chwefror eleni. Wrth gwrs, cydiodd Chris yn y cyfle hwn â’i ddwy law ac yn fuan fe wnaeth argraff fawr ar y staff yn ‘Unrhyw Un yn Aros’, cymaint yn wir nes eu bod yn fuan yn siarad am gynnig gwaith iddo o fewn eu sefydliad. Yn anffodus, cyn i hyn fedru digwydd fe ddaeth y COVID-19, gan arwain at fesurau cyfnod clo yn effeithio’n galed ar fusnesau gan olygu fod lleoliad Chris yn cael ei atal dros dro. Sut bynnag, yn lle cael ei siomi ac aros gartre i’r sefyllfa newid, fe welodd Chris y gallai fod yna gyfle i wirfoddoli a helpu ei gymuned mewn rhyw ffordd.
Fel mae’n digwydd, roedd cyfle yma, gan fod Canolfan Selwyn Samuel i’w thrawsffurfio yn ysbyty maes. Fel arfer camodd Chris ymlaen i gymryd y dasg a helpu mewn unrhyw ffordd y gallai. Dywedodd Paul Francis o ‘Unrhyw Un yn Aros’ amdano, ar ôl gweld agwedd y gŵr ifanc mewn cyfnod o angen, “ Fedra i ddim siarad yn ddigon uchel am ymrwymiad Chris, mae bellach yn barod, trwy ei Raglen Prentisiaeth, i dderbyn Cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2 yn ystod y cam hwn o wirfoddoli a bydd hyn yn gwella ei obaith am swyddi hyd yn oed ymhellach”.
Dywedodd Swyddog Maes Chris, Samantha Pritchard o Hyfforddiant Cyngor Gwledig Llanelli: “Rydyn ni i gyd mor falch o lwyddiannau Chris a’i agwedd anhygoel a arweiniodd ato’n gwirfoddoli a helpu gweithwyr allweddol yn ystod y cyfnod heriol hwn”. Mae Hyfforddiant LRC hefyd yn falch o’r gefnogaeth dderbyniodd Chris oddi wrth ‘Unrhyw Un yn Aros’ ac yn cydnabod y gwaith ardderchog maen nhw’n parhau i’w gyflawni i gefnogi pobol yn eu cymunedau lleol a gyda hyn mewn golwg, yn estyn eu diolch a’i gwerthfawrogiad i’r tȋm rheoli a’r staff sy wedi’u lleoli yng Nghanolfan Selwyn Samuel.