50 mlynedd o weithio gyda'r gymuned ac ar ei chyfer

Dathlu pen-blwydd y cyngor yn 50 oed
1 Ebrill 1974 - 31 Mawrth 2024

Rhagfyr 18th, 2018

Paratoi i ddal Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gyfrif

DATGANIAD I’R CYFRYNGAU

Yn ddiweddar gwahoddodd Cyngor Gwledig Llanelli gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i un o’i gyfarfodydd cyngor gan fod y cyngor yn paratoi i graffu ar “Strategaeth Trawsfurfio Gwasanaethau Iechyd Clinigol a Gofal”  y Bwrdd Iechyd..

Cymeradwywyd y strategaeth iechyd gan y Bwrdd Iechyd tua diwedd mis Tachwedd 2018 ac wrth fynd yn ei flaen caiff ei drawsffurfio i nifer o wasanaethau wedi’u cynllunio i gwrdd ag anghenion y cyhoedd a grwpiau allweddol yn yr archwiliad mawr o wasanaethau iechyd gofal ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd.

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tegwen Devichand, y sylw “mae’r Cyngor wedi cadw’r powdr yn sych hyd yn hyn oherwydd yr ansicrwydd ynglyn a’r model dewisedig a fabwysiadwyd gan y Bwrdd Iechyd parthed maint y gwasanaethau i’w cadw yn Ysbyty y Tywysog Philip”.

“Nawr ein bod ni’n gwybod beth yw’r opsiwn dewisedig, mae’r cyngor yn awyddus i gymell y Bwrdd Iechyd sut mae’n bwriadu ei ddwyn i gyfiif trwy graffu’n rhagweithiol ar weithredu’r strategaeth- proses sy’n debygol o gymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni”

“Yn ystod cyfarfod y cyngor, fe wnaeth yr aelodau gynrychioliadau i swyddogion y Bwrdd Iechyd i’r cyngor weithredu ar ei fwrdd prosiect i oruchwylio yr agenda trawsffurfio a bod mewn rol gyffelyb i’r hyn a wnaeth cynt pan roedd y cyngor yn eistedd ar Fwrdd Cynllun Blaen Ty yn goruchwylio y trawsffurfio o’r gwasanaeth A&E yn ysbyty’r Tywysog Philip.

“Mae’r cyngor yn credu mai hwn fydd y mecanwaith mwyaf effeithiol i ddwyn y Bwrdd Iechyd i gyfrif gan ddarparu y gymuned leol a’r tawelwch meddwl y bydd ganddi lais cryf lleol yn cynrychioli eu diddordebau pan ddaw hi’n fater o graffu ar y rhaglen trawsffurfio.

“Bydd gwaith y cyngor hefyd yn edrych ar sefydlu cydweithrediad agos gyda rhanddeiliaid pwysig eraill. I’r perwyl hwn bwriada’r cyngor wahodd swyddogion Cyngor Iechyd Cymunedol i gyfarfod o’r cyngor yn y Flwyddyn Newydd er mwyn dod o hyd i dir cyffredin ar sut y gallwn weithio orau gyda’n gilydd i ddiogelu gwasanaethau pwysig yr ysbyty.”

(DIWEDD)

Am wybodaeth bellach, cysylltwch a Chlerc y Cyngor, Mark Galbraith ar 01554 774103; ebost: [email protected]