Roedd Pwyllgor Datblygu Tir Hamdden y Pwll yn llwyddiannus yn eu cais am Grant Datblygu Cymunedol Cyngor Gwledig Llanelli am swm o £544.80 a’u galluogodd hwy i brynu hysbysfwrdd cymunedol newydd wedi’i leoli yn yr ystafelleodd newid nesaf at Bafiliwn y Pwll.
Yn y llun: (o’r chwith i’r dde) Cynghorydd Penny Edwards sy’n aelod o Bwyllgor Datblygu Tir Hamdden y Pwll ac Aelod Ward Hengoed, Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cynghorydd Sharen L. Davies, Cynghorydd Martin Davies a’r Cynghorydd Sian Caiach sydd ill dau yn Aelodau Ward Hengoed.