Yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, penderfynodd y cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2024 yn ffurfiol ei fod yn ‘Gyngor Cymuned Cymwys’ at ddiben defnyddio’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol. Yn dilyn hynny, ailgadarnhaodd y Cyngor ei statws cymhwysedd yn ei Gyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 14eg Mai, 2024.
Cyn ailgadarnhau statws cymhwysedd y cyngor, roedd angen bodloni tri amod cymhwysedd sef:
- Bod o leiaf dwy ran o dair o’r nifer a restrir fel aelodau’r cyngor wedi’u datgan i’w hethol (gan gynnwys rhai diwrthwynebiad), boed mewn etholiad cyffredinol neu mewn is-etholiad.
Mae’r cyngor yn bodloni’r amod hwn oherwydd bod pob un o’r 21 o seddi’r cyngor ar draws ei saith ward etholiadol wedi’u hymladd yn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredinol a gynhaliwyd ar 5 Mai 2022.
- Mae Clerc y Cyngor yn meddu ar y cyfryw gymwysterau neu ardystiadau a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliad.
Mae’r cyngor yn bodloni’r amod bod Clerc y Cyngor yn dal y dystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol (gyda rhagoriaeth) a hefyd wedi cwblhau modiwl hyfforddi annibynnol Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yn llwyddiannus – ‘GPoC’ (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol)
- Bod dwy farn ddiweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor yn ddiamod. Mae’n rhaid bod y diweddaraf wedi dod i law yn y 12 mis blaenorol.
Mae’r cyngor yn bodloni’r amod hwn yn yr ystyr bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfer y ddau archwiliad diweddaraf o’i gyfrifon; y farn ddiweddaraf yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023.
Mae’r tri amod, gyda’i gilydd, yn dangos bod y cyngor yn cynrychioli barn ei etholwyr; mae ganddo hanes diweddar o lywodraethu cadarn; ac mae gan y clerc y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth graidd i gefnogi’r cyngor i arfer y pŵer cyffredinol.
Mark Galbraith
Clerc y Cyngor